Newyddion 

Y pen-cogydd Luke Thomas yn gweini Cig Oen Cymru i’r sêr yn V Festival 2016

Aug 26 2016

Bu’r pen-cogydd ifanc o Gymru, Luke Thomas, yn gweini Cig Oen Cymru y tu ôl i’r llwyfan i enwogion a phwysigion yn ystod y V Festival eleni yn Chelmsford, Essex.

Ymhlith y danteithion a gynigiwyd gan Luke roedd Cig Oen Cymru PGI, tacos betys, cyrri tatws melys a phoethgwn porc â sglein bourbon, sef y math o fwyd y mae Luke wedi’i gyflwyno i  hosteli Generator ledled Ewrop.   Ei nod yw defnyddio cynnyrch lleol i baratoi bwyd ffres a chyflym sy’n adlewyrchu blasau nodweddiadol y cyffiniau.

Yn yr ŵyl bu Luke, sy’n 22 oed ac yn frodor o Sir y Fflint, yn coginio ysgwyddau o Gig Oen Cymru PGI mewn menyn oren a harrissa ac yn gweini darnau o’r cig gyda salad pomgranadau, caws feta, winwns coch a mint.  Ymhlith y sêr a fwynhaodd y tameidiau blasus, roedd Louise Thompson (Made in Chelsea) a Ryan Libbey;  Aston Merrygold (JLS), Conor Maynard a Samantha Harvey; a Mark Wright, seren The Only Way is Essex.

Dywedodd Luke: “Y cig oen oedd gwir seren ein sioe ni.  Gwnaeth argraff anhygoel ar bawb a fu’n ei flasu.”

Roedd y pen-cogydd ifanc, sy’n cael ei ystyried gan y gwybodusion yn olynydd teilwng i Jamie Oliver, yn coginio a gweini mewn man wedi’i neilltuo i’r perfformwyr ar safle Hylands Park yn Chelmsford, Essex, Hwn oedd yr eildro i Gig Oen Cymru gael ei weini yn y V Festival.

Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Defnyddwyr gyda Hybu Cig Cymru (HCC): “Rydym wrth ein bodd fod Cig Oen Cymru wedi bod mor boblogaidd yn y V Festival ac yn falch dros ben o fod wedi allu cydweithio â Luke unwaith eto eleni.  Mae ganddo brofiad a gwybodaeth a dawn sydd y tu hwnt i’w oedran ifanc.”

 

HCC16087_-_V_Festival_-_Louise_Thompson_-_Ryan_libbey_1.jpg

Louise Thompson and Ryan Libbey o Made in Chelsea’s yn joia Cig Oen Cymru

 

 HCC16087_-_V_Festival_-_Conor_Maynard__Luke_Thomas_2.jpg

Pen-cogydd Luke Thomas yn cwrdd a canwr Conor Maynard

Lluniau trwy garedigrwydd Rick Barret

Yn ôl i’r rhestr newyddion
Yn chwilio am rywbeth penodol
Teledu HCC