Newyddion 

HCC yn troedio’r stryd fawr er mwyn tynnu sylw at safon cig lleol

Feb 21 2018

Mae olrheinedd bwyd a phrynu’n lleol yn fwy pwysig nag erioed i gwsmeriaid modern. Mewn arolwg diweddar, dywedodd 59% o gwsmeriaid fod tarddiad eu bwyd cyn bwysiced â ffactorau eraill megis pris.

Bu Hybu Cig Cymru (HCC) yn helpu i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol cig oen, cig eidion a phorc o Gymru trwy ymweld â siopau cigydd sy’n rhan o’i Glwb Cig Oen a Chig Eidion Cymru, gan wrando ar farn arbenigwyr sydd â degawdau o brofiad yn y fasnach gig ar y stryd fawr, a chynnig cyngor ar sut i sicrhau fod safonau uchel iawn o olrheinedd yn cael eu cynnal.

Swyddogion Safonau Masnach wedi eu cyflogi gan awdurdodau lleol sydd â’r dyletswydd gyfreithiol dros orfodaeth o ran labelu tarddiad bwyd mewn siopau. Ond mae gan HCC hefyd rôl fel gwarcheidwaid y statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) ar gyfer cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru – gwobr Ewropeaidd uchel ei barch sy’n rhoi hyder i gwsmeriaid fod modd olrhain eu cig o’r fferm i’r fforc.

Mae clwb cigyddion HCC yn rhoi cefnogaeth o ran marchnata a hyrwyddo, ac yn darparu taflenni rysetiau tymhorol i gigyddion sydd wedi ymrwymo i gyflenwi Cig Oen Cymru PGI neu Gig Eidion Cymru PGI.

“Mae’n bleser i roi cychwyn ar ein rhaglen o ymweliadau â siopau annibynnol eleni, ac i siarad â chigyddion a chanddynt gymaint o angerdd ac arbenigedd,” meddai Swyddog Datblygu’r Farchnad HCC Kirstie Jones.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n mynd allan i’r stryd fawr, er mwyn gwrando ar beth mae cigyddion ei eisiau o ran marchnata, ac hefyd i gefnogi ymdrechion Swyddogion Safonau Masnach lleol i roi sicrwydd i gwsmeriaid eu bod yn prynu’n union beth a nodir ar y label,” ychwanegodd. “Byddwn yn parhau gyda’n cyfres o ymweliadau trwy gydol y flwyddyn.”

“Mae gan Gig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI safonau uchel iawn o ran olrheinedd,” esboniodd Kirstie. “Mae gan nifer o gigyddion annibynnol Cymru wybodaeth bersonol am y ffermydd lle mae’r cig yn dod, yn ogystal â medru rhoi cyngor arbenigol ar sut i’w baratoi a’i goginio.”

Yn ôl y cigydd Mark McArdle o’r Waun, sydd wedi ennill gwobrau o fewn y diwydiant, mae cwsmeriaid yn gynyddol ymwybodol o lle mae eu cig yn dod.

“Ry’n ni wedi sylwi ar newid mawr yn ystod y blynyddoedd diweddar o ran faint o ddiddordeb sydd gan bobl mewn prynu bwyd lleol,” meddai. “Y dyddiau yma mae pobl hyn yn oed yn gofyn am frîd yr anifail yn ogystal â lle y’i magwyd. Ac mae ymwelwyr â’r ardal hefyd yn dangos diddordeb mawr mewn prynu rhywfaint o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru i fynd adre gyda nhw.”

Ychwanegodd Mark, “Gan ein bod wedi lleoli yng Nghymru mae’n bwysig iawn i ni werthu Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI sy’n dod o ffermydd lleol. Mae’n rhoi balchder mawr i ni fedru dweud wrth gwsmeriaid yn union lle y magwyd yr anifail.”

Un busnes sy’n pwysleisio faint mor lleol ydy’r cynnyrch yw’r cigydd teuluol Hugh Phillips o Abertawe, sydd nawr o dan berchnogaeth y bumed genhedlaeth – Catherine Butler.

“Gyda hanes mor gyfoethog i’n busnes rwy’n benderfynol o ddathlu’r traddodiadau sydd wedi bod yn rhan o’n llwyddiant,” meddai Catherine. “Mae’n holl gig oen a chig eidion yn Gymreig PGI, ac rwy’n falch o barhau â’r traddodiad teuluol o werthu cig lleol o safon uchel. Mae cig oen o wastadeddau hallt Penrhyn Gŵyr yn sicr yn un o’r ffefrynnau gen i a’r cwsmeriaid.”

Yn ôl i’r rhestr newyddion
Yn chwilio am rywbeth penodol
Teledu HCC